top of page

Ein Polisi Ad-dalu

Rydym yn deall bod cynlluniau’n gallu newid, ac efallai y bydd angen i chi ganslo sesiwn DPP a archebwyd ymlaen llaw. Rydym yn hapus i gynnig ad-daliad ar docynnau sesiynau arferol os gwneir y cais o leiaf 14 diwrnod cyn y sesiwn.

 

Os yw’r cais yn nes at ddyddiad y sesiwn, byddwn yn ceisio rhoi ad-daliad os gallwn ddod o hyd i rywun o’r rhestr aros i gymryd eich lle. Os oes gennych gydweithiwr neu ffrind all ddod yn eich lle, gallwn helpu i drosglwyddo’r tocyn.

 

  • Sylwch: ni ellir rhoi ad-daliad os na cheir rhywun i gymryd eich lle.

  • Nid yw tocynnau ar gyfer cyfres o sesiynau yn ad-daladwy ar ôl y sesiwn gyntaf. Yn gyffredinol, nid yw tocynnau’n drosglwyddadwy oni bai fod hynny wedi’i gytuno ymlaen llaw.

  • Nid yw ffioedd archebu, gweinyddu a thocynnau yn ad-daladwy pan fyddant yn berthnasol.

Os oes angen trafod eich sefyllfa, cysylltwch â ni!

 

bottom of page